Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 2 Ebrill 2019
Amser:
08.30 -
09.14
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Neil Hamilton AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes y bydd ffotograffydd allanol yn y Cyfarfod Llawn heddiw ar gyfer dechrau'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i drefnu dadl ar ei 'Adroddiad 01-19' yn ystod Cyfarfod Llawn yfory. Bydd cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro yn cael ei gyflwyno yn enw'r Llywydd, fel rhagflaenydd i'r ddadl.
· Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Nododd y Rheolwyr Busnes y canlynol, i'w gynnal ar ôl datganiad y Llywydd ddydd Mawrth 7 Mai:
· Anerchiad gan y Prif Weinidog i nodi ugain mlynedd ers datganoli (15 munud)
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mawrth 7 Mai 2019 -
· Anerchiad gan y Llywydd i nodi ugain mlynedd ers datganoli (15 munud)
Dydd Mercher 15 Mai 2019 –
· Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Cynnal Hyder yn y Weithdrefn Safonau (30 munud)
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Cytunodd Rheolwyr Busnes i'r cais a chytunodd i ddychwelyd at y mater ar ôl toriad y Pasg.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol at yr un pwyllgorau â'r memorandwm cyntaf - y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - gyda dyddiad terfynol o 11 Mehefin ar gyfer adrodd.
Nododd y Rheolwyr Busnes yr ansicrwydd ynghylch y llinell amser Seneddol yn San Steffan.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i eitem fusnes ar y cyd rhwng Senedd Ieuenctid Cymru a'r Cynulliad ar 26 Mehefin 2019 ac, yn unol â Rheol Sefydlog 13.3, cytunwyd y dylai'r Llywydd wahodd rhai o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru i gymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad at y diben hwnnw.
Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a gwahoddwyd swyddogion i gyflwyno papur ar effaith Brexit ar y Rheolau Sefydlog ar ôl toriad y Pasg.
Nododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd i ymgynghori â'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol unwaith y bydd y Pwyllgor Busnes wedi cytuno ar Reol Sefydlog ddrafft ar gyfer Biliau Cydgrynhoi.
Cwestiynau Llafar y Cynulliad
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad mewn egwyddor o gyfarfod yr wythnos diwethaf i leihau nifer y Cwestiynau Llafar a gyflwynir o 15 i 12. Fodd bynnag, penderfynodd y Rheolwyr Busnes barhau â'r trefniadau pleidleisio presennol lle y caiff 20 Aelod eu dewis i gyflwyno cwestiynau yn y lle cyntaf (yna gymysgiad i ddewis 12 uchaf) am y tro. Caiff y newid hwn ei weithredu yn union ar ôl toriad y Pasg.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd i dreialu caniatáu i Aelodau gael eu cynnwys yn y bleidlais unwaith yn unig ar gyfer sesiynau Cwestiynau Gweinidogol Llafar drwy gydol tymor yr haf, gyda'r bwriad o ddiwygio Rheolau Sefydlog pe bai'n llwyddiant.
Cwestiynau Arweinwyr a Llefarwyr, llefydd gwag o ran aelodaeth pwyllgorau, a dadleuon y gwrthbleidiau
Trafododd y Rheolwyr Busnes y materion hyn yng ngoleuni digwyddiadau diweddar a arweiniodd at leihau maint Grŵp UKIP i 3 Aelod, a chreu nifer o lefydd gwag ar bwyllgorau. Gofynnodd y Pwyllgor i swyddogion gyflwyno papur ar ôl toriad y Pasg a fyddai'n llywio ei benderfyniadau.